Sut mae pethau gyda ni?
Rydym ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn codi ein safonau drwy’r amser i’r lefel uchaf posibl ac rydym am barhau i weithio gyda’n tenantiaid i gyflawni hyn.
Arolwg o Denantiaid a Phreswylwyr
Bob yn ail flwyddyn, rydym yn gofyn i’n tenantiaid gymryd rhan mewn Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr. Mae canlyniadau arolwg 2025/26 yn achos dathlu!
Yn gyntaf, hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg diweddar. Cawsom fwy na 847 (26%) o ymatebion, sy’n newyddion gwych!
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf bu newidiadau arwyddocaol i Dai Sir Ddinbych, ein tenantiaid a’n cymunedau. Mae arnom eisiau parhau i godi ein safonau i’r lefel uchaf posib ac mae angen i ni weithio gyda chi er mwyn cyflawni hynny.
Roedd yr arolwg yn dangos bod:
- 81% yn fodlon gydag ansawdd cyffredinol eu cartref.
- 85% yn fodlon ein bod yn darparu cartref sy’n ddiogel.
- 82% yn fodlon ei bod yn hawdd delio â ni.
- 65% yn fodlon ein bod yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt.
- 80% yn fodlon gyda’u cymdogaeth fel man i fyw.
- 84% yn credu bod eu rhent yn darparu gwerth am arian.
- 68% o’r farn bod eu taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian.
- 82% yn fodlon gyda’r gwasanaeth atgyweirio cyffredinol.
- 84% yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol rydym yn ei ddarparu.
- 49% yn nodi fod ganddynt ddweud o ran sut y caiff gwasanaethau eu rheoli.
- 57% yn fodlon gyda’r ffordd yr ydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- 85% yn darllen y newyddlen tenantiaid.
- 69% heb glywed am Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
- 80% yn fodlon â’r ffordd y darperir gwybodaeth iddynt yn ystod y broses gwaith atgyweirio.
- 53% yn fodlon â’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu.
- 77% yn ymddiried ynom.
- 62% yn fodlon ein bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymdogaeth.
- 67% yn fodlon â’r gwaith cynnal a chadw tiroedd yn eu hardal.
Uchafbwyntiau’r Arolwg
Rydym yn parhau i fod yn un o’r perfformwyr gorau yng Nghymru ac yn gyntaf o blith holl Awdurdodau Lleol Cymru mewn pedwar o brif gategorïau
- Boddhad â’r Gwasanaeth yn Gyffredinol: 84%
- Gwerth am Arian y Rhent: 84%
- Boddhad â Gwaith Atgyweirio a Chynnal a Chadw: 82%
- Boddhad ag Ansawdd y Cartref: 81%
Roedd 82% o’r tenantiaid yn ei chael yn hawdd delio â Thai Sir Ddinbych, yn canmol proffesiynoldeb a chwrteisi ein Canolfan Gyswllt a’n timau Tai ac Atgyweirio.
Yn ogystal â hynny, mae 77% yn ymddiried yn y gwasanaeth, 3% yn fwy na 2023.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran, gan fod eich barn a’ch safbwyntiau wir o bwys.
Beth nesaf?
Ar sail y canlyniadau o’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr diweddaraf, byddwn yn canolbwyntio ar:
- Apwyntiadau Gwaith Atgyweirio: Ymchwilio i welliannau TGCh i gefnogi cyflwyno system apwyntiadau gyda dyddiau / amseroedd penodol er mwyn cefnogi ffyrdd o fyw cwsmeriaid a lleihau amserlenni aneglur.
- Porth Tenantiaid: Lansio porth tenantiaid ar-lein i alluogi cwsmeriaid i gael mynediad at wasanaethau’n ddigidol.
- Effeithlonrwydd Ynni: Blaenoriaethu cartrefi sy’n anodd eu gwresogi yn seiliedig ar arolygon cyflwr stoc, data perfformiad ynni ac yn unol â Llwybr Ynni Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer pob cartref.
- Cynnal a Chadw Tiroedd: parhau i wella tasgau penodol megis rheoli chwyn a chlirio llwybrau.
- Ymgysylltu â Thenantiaid: Darparu’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid gan ddarparu adborth rheolaidd ar sut mae adborth tenantiaid wedi arwain at newidiadau gwasanaeth penodol. Cyflwyno “Dewislen Ymgysylltu” sy’n cynnig dewisiadau ar gyfer ymgysylltu â’r gwasanaeth, fel arolygon a phaneli tenantiaid.
- Ymwybyddiaeth o Safon Ansawdd Tai Cymru: Datblygu mwy o ymgyrchoedd cyfathrebu ynglŷn â Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen SATC ar ein gwefan.
- Archwiliadau ansawdd: Rheoli ansawdd gwaith contractwyr allanol yn llymach er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r un safonau uchel â’r tîm mewnol.
- Gorfodi cytundebau tenantiaeth yn llymach: Cyfathrebu disgwyliadau’n glir i ddioddefwyr a chyflawnwyr mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ystyried defnydd ehangach o ddatrysiadau ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.
- Gohebu ynglŷn â Gwaith Atgyweirio: Rhoi’r gorau i anfon llythyrau drwy’r post ac anfon cadarnhad drwy neges destun neu e-bost pan gaiff darn o waith ei drefnu neu’i ddiweddaru. Bydd y wybodaeth yn cynnwys y dyddiadau y bwriedir cwblhau’r gwaith atgyweirio lle bo modd.
